Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
 Drwy e-bost

Y Pwyllgor Safonau 
 Ymddygiad 
 —
 Standards of Conduct 
 Committee
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddSafonau@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddSafonau
 0300 200 6565
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddStandards@senedd.wales
 senedd.cymru/SeneddSafonau
 0300 200 6565
 
3 Mawrth 2025

Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau

Annwyl Manon,

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (“y Pwyllgor”) wrthi’n cynnal ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac ystyriaeth o’r ffyrdd y mae seneddau eraill yn y DU yn rheoli eu cofrestrau nhw, a sut mae’r Senedd yn cymharu ag arfer gorau mewn mannau eraill, mae’r Pwyllgor yn cynnig nifer o newidiadau i’r gofyniad cofrestru ar gyfer y Seithfed Senedd.

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu cael eich barn am y cynigion, a restrir isod. Yn ogystal â chi, cytunodd y Pwyllgor i ymgynghori â’r Llywydd, Aelodau o’r Senedd a’r Comisiynydd Safonau ar y cynigion sydd dan ystyriaeth. Mae'r cyfeiriadau at baragraffau a restrir yn dynodi lle y gellir dod o hyd i'r wybodaeth ategol berthnasol yn y papur ategol.

1.    Tâl - Cyfuno categorïau 1, 2, 3 a 5 yn un categori eang i gynnwys pob math o gyflogaeth Aelodau am dâl, tra'n cadw lefel bresennol y wybodaeth sydd ei hangen. (paragraffau 10-29)

2.    Ychwanegu darpariaeth at Reol Sefydlog 4 fel bod modd cofnodi’r amser ar gyfer gweithgaredd cofrestradwy untro, drwy ddarparu’r amser a dreulir ar y gweithgaredd penodol hwnnw. (paragraffau 10-30)

3.    Diwygio'r Rheolau Sefydlog a'r canllawiau i'w gwneud yn ofynnol i Aelodau gofrestru swm y tâl a dderbynnir am bob gweithgaredd cofrestradwy. (paragraffau 10-31)

4.    Rhoddion, lletygarwch ac ati - Ystyried a yw’r trothwy ar gyfer cofrestru rhoddion a lletygarwch yn rhy uchel, o ystyried nad yw’n dal sawl math cyffredin o roddion a lletygarwch a’i fod ymhlith yr uchaf yn seneddau’r DU, ac a ddylid gosod trothwy is. (paragraffau 32–43)

5.    Newid y rheolau i gysoni’r Senedd â seneddau eraill, drwy ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddarparu gwerth neu amcangyfrif o werth ar gyfer rhoddion a dderbyniwyd. (paragraffau 32-44)

6.    Ymweliadau tramor - Newid y rheolau i gysoni’r Senedd â seneddau eraill, drwy ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddarparu gwerth neu amcangyfrif o werth ar gyfer ymweliadau tramor. (paragraffau 49-60)

7.    Cynnig bod 'ymweliadau y telir amdanynt yn gyfan gwbl gan un o sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd neu gan un o grwpiau gwleidyddol Senedd Ewrop' yn cael eu dileu o’r rhestr o eithriadau ar gyfer cofrestru ymweliadau tramor, yng ngoleuni ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. (paragraffau 61-62)

8.    Tir ac eiddo - Newid y rheolau fel bod angen i’r Aelodau bennu a yw eiddo yn cael ei gofrestru oherwydd ei werth, yr incwm sy’n deillio ohono, neu’r ddau. (paragraffau 63-76)

9.    Pennu y dylai Aelodau nodi a ydynt yn landlordiaid cofrestredig gyda Rhentu Doeth Cymru. (paragraffau 63-77)

10.  Cyfranddaliadau - Cyhoeddi gwybodaeth ynghylch pa gategori (gwerth absoliwt neu ganran o'r cyfanswm) y mae cyfranddaliadau yn dod o dano yn cael ei gyhoeddi o dano. (paragraffau 78-86)

11.   Aelodaeth/cadeiryddiaeth cyrff sy’n derbyn cyllid gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru - Diwygio teitl y categori hwn i adlewyrchu'n well yr hyn sydd angen ei gofrestru. (paragraffau 87-90)

12.  Cyflogi Aelodau Teulu - Dileu’r cyfeiriad at gyflogi aelodau o deulu Aelod ei hun. (paragraffau 91-99)

13. 

13.  Naill ai dileu’r gofyniad o dan Reol Sefydlog 3 i roi enw’r aelod o’r teulu sy’n gyflogedig, neu gadw’r gofyniad hwnnw ond diwygio’r Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r enw beidio â chael ei gyhoeddi ar gais yr Aelod. (paragraffau 91-100)

14.  Cyffredinol - Cyhoeddi’r dyddiad y caiff cofnod ei gofrestru neu ei ddiwygio. (paragraffau 106-118)

15.  Ei gwneud yn ofynnol i Aelodau roi’r dyddiad y digwyddodd newid, a fydd hefyd yn cael ei gyhoeddi. (paragraffau 106-119)

16.  Cyflwyno categori ‘gwirfoddol’ newydd at ddiben galluogi Aelodau i gofnodi unrhyw fuddiannau ariannol neu fuddiannau eraill y maent am iddynt fod yn gyhoeddus, ond nad ydynt yn dod o dan unrhyw un o’r categorïau gorfodol o dan Reol Sefydlog 2. (paragraffau 120-127)

17.  Newid y cyfnod cofrestru cychwynnol yn y Senedd i bedair wythnos, er mwyn sicrhau cysondeb â’r gofyniad am ddiweddariadau yn ystod Senedd. (paragraffau 128-130)

18.  Pennu’r trothwyon yn rheolau’r Senedd ar ddechrau Senedd, er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i Aelodau ynghylch y trothwyon sy’n gymwys am gyfnod Senedd (paragraffau 131-133)

Yn eich rôl fel swyddog cyfrifyddu Comisiwn y Senedd, byddai’r Pwyllgor yn croesawu unrhyw farn a allai fod gennych ar y cynigion uchod ar hyn o bryd, a byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw ymateb erbyn 28 Mawrth 2025. Er gwybodaeth, bydd swyddogion hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio gydag Aelodau yn ystod y cyfnod hwn i roi cyfle iddynt godi unrhyw faterion sensitif neu ymholiadau yn gyfrinachol.

Yn gywir,

Llun o lofnod Disgrifiad gynhyrchwyd yn awtomatig

Hannah Blythyn AS

Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.